Rhowch wybod i ni
Adar efo modrwyau, tagiau neu farciau eraill
Rhowch wybod i ni os gwelwch aderyn byw neu farw efo modrwy neu dag arnynt. Mi fydd hyn yn cyfrannu data gwerthfawr at ein hymchwil, gan helpu ein hymchwilwyr i bennu tueddiadau poblogaeth adar a rhagweld sut y gallai poblogaethau ymdopi yn y dyfodol.
I anfon gwybodaeth am adar efo modrwy, gwnewch yn siŵr bod gennych chi nodyn o leoliad a lliw’r modrwyau neu’r tagiau’r aderyn. Bydd angen dyddiad a lleoliad yr aderyn arnoch hefyd, yn ogystal ag unrhyw fanylion am yr aderyn rydych yn ei adnabod (e.e.. rhywogaeth, rhyw, oedran – ond gallwch gyflwyno manylion modrwy heb hyn os nad ydych yn siŵr).
Nythod a bylchau nythu
Os ydych chi wedi dod o hyd i nyth adar neu flwch nythu wedi’i feddiannu, peidiwch ag aflonyddu arno. Gallwch ddysgu sut i’w fonitro’n ddiogel trwy un o’n prosiectau monitro nythod.
Darganfyddiadau adar
Y ffordd orau o roi gwybod i ni am adar diddorol yw trwy ein prosiect BirdTrack. Unwaith y byddwch wedi cofrestru, mae’n hawdd cyflwyno’ch cofnodion.
Plu anarferol
Rhowch wybod am unrhyw aderyn efo lliw(iau) anarferol: melaniaeth (plu tywyll), albiniaeth a lewciaeth (plu gwelw) neu xanthochromiaeth (plu melyn yn lle coch).
Adar sâl, wedi’u hanafu neu wedi marw
Rhowch wybod i ni am adar sâl neu afiach
Mae poblogaethau ein hadar yn wynebu achos sylweddol o ffliw adar. Mae reportio adar sâl yn ein helpu i olrhain lledaeniad ac effaith y firws. Gallwch wneud hyn trwy BirdTrack, os ydych chi'n gwybod y rhywogaeth.
Os gwelwch adar heintiedig yn eich gardd, gallwch hefyd roi gwybod i ni amdanynt trwy ein prosiect ‘Iechyd Bywyd Gwyllt yr Ardd’.
Bydd angen cyfrif BTO arnoch i gyfrannu at BirdTrack ac Iechyd Bywyd Gwyllt yr Ardd. Sefydlwch gyfrif am ddim nawr >
Adar neu gywion sydd wedi’u hanafu allan o’r nyth
Tra bod BTO a’i wirfoddolwyr yn monitro adar, nid ydym yn cyflawni rôl filfeddygol dros fywyd gwyllt.
Os ydych wedi dod o hyd i aderyn anafedig, cysylltwch â’ch milfeddyg lleol, neu’r RSPCA (Cymru a Lloegr), SSPCA (Yr Alban) neu USPCA (Gogledd Iwerddon). Fel arall, dewch o hyd i ganolfan achub ar Help Wildlife.
Os ydych chi wedi dod o hyd i gyw yn fyw ond allan o’r nyth, yn gyntaf mae angen i chi benderfynu a yw’n gyw bach cyn ymyrryd: dilynwch ganllaw defnyddiol y RSPCA am ragor o wybodaeth.
Adar marw
Sylwch: mae arbenigwyr yn cynghori eich bod yn osgoi trin adar marw â chroen noeth.
Mae poblogaethau adar gwyllt ar hyn o bryd yn wynebu achos sylweddol o ffliw adar. Mae rhoi gwybod am adar marw yn ein helpu i olrhain lledaeniad ac effaith y firws.
- Yng Nghymru, Lloegr a’r Alban, reportiwch adar gwyllt marw i Defra ar gyfer profion posib.
- Yng Ngogledd Iwerddon reportiwch adar gwyllt marw i DAERA ar gyfer profion posibl.
- Ym mhob rhanbarth yn y DU, rhowch wybod am yr aderyn marw i BirdTrack, os ydych yn gwybod y rhywogaeth.
Adar ysglyfaethus marw
Mae adar ysglyfaethus marw a ddarganfyddwch i Ganolfan Ecoleg a Hydroleg y DU yn cael eu gohirio am y tro oherwydd ffliw adar.
Share this page